Y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol

Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol
Bráithreachas Phoblacht na hÉirean
Irish Republican Brotherhood
SloganÉirinn go Brách
("Iwerddon am Byth!")
Sefydlwyd1858
Daeth i ben1924
Rhagflaenwyd ganYr iwerddon Ifanc
(Young Ireland)
PapurThe Irish People
Rhestr o idiolegauCenedlaetholdeb Gwyddelig
Plaid yn y DUY Gwirfoddolwyr Gwyddelig (1913–1917)
Y Fyddin Weriniaethol
(Irish Republican Army)
(1917–1922)
Byddin Iwerddon
(Irish Army)
(1922–1924)
Cysylltiadau Americanaidd cryfY Frawdoliaeth Ffeniaidd
Fenian Brotherhood
(1858–1867)
Clan na Gael (1867–1924)
LliwGwyrdd ac Aur

Cymdeithas gyfrinachol oedd y Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (Saesneg: Irish Republican Brotherhood, IRB; Gwyddeleg: Bráithreachas Phoblacht na hÉireann) a sefydlwydd gyda'r bwriad i sefydlu Iwerddon gyfan yn "weriniaeth ddemocrataidd annibynnol". Bu'r mudiad yn bodoli rhwng 1858 a 1924.[1] Roedd yn allweddol yn nhrefniadau Gwrthryfel y Pasg yn 1916.

Sefydlwyd chwaer-fudiad yn Unol Daleithiau America gan John O'Mahony a Michael Doheny, mudiad a ddaeth i'w adnabod fel y Frawdolaeth Ffenaidd (Gwyddeleg: Bráithreachas na bhFíníní; Saesneg: Fenian Brotherhood, ac mewn Gaeleg, yn ddiweddarach: Clan na Gael). Gelwir aelodau'r ddau fudiad yn 'Ffeniaid'.[2] Cymerodd y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (yr IRB) ran allweddol yn hanes Iwerddon (1801-1922), rhan bwysicach efallai nag unrhyw fudiad arall. Yr IRB oedd prif ladmerydd cenedlaetholdeb Gwyddelig, yn ystod yr ymgyrch dros hunanlywodraeth i Iwerddon, ac yn yr ymgyrch i dorri'n rhydd oddi wrth 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Etifeddodd y mudiad enw da rhagflaenwyr megis y 'Gwyddelod Unedig' (United Irishmen) o'r 1790au ac 'Iwerddon Ifanc' (Young Ireland) y 1840au.

Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol a gynlluniodd Wrthryfel y Pasg yn 1916, ac yn y man a esgorodd ar sefydlu'r Dáil Éireann cyntaf. Wedi Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon ac arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr yn 1921, gwawriodd llawer o'u hamcanion pan sefydlwyd 'Gwladwriaeth Rydd Iwerddon'.[3] Ond,nid oedd yn cynnwys Gogledd Iwerddon.

  1. McGee, tud. 15.
  2. Sefydlwyd y Frawdoliaeth Ffenaidd ychydig wedi sefydlu'r Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol yn 1858.(ibid. 92)
  3. Porth Termau Cenedlaethol Cymru; adalwyd Mawrth 2016

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search